Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:11-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. er mwyn ichwi fedru sugno a chael eich diwalluo'i bronnau diddanus,er mwyn ichwi fedru tynnu arni a chael eich diddanugan ddigonedd ei gogoniant.”

12. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Edrychwch, rwy'n estyn iddi heddwch fel afon,a golud y cenhedloedd fel ffrwd lifeiriol.Cewch sugno, cewch eich cludo ar ei hystlys,a'ch siglo ar ei gliniau.

13. Fel y cysurir plentyn gan ei fambyddaf fi'n eich cysuro chwi;ac yn Jerwsalem y'ch cysurir.

14. Cewch weld hyn, a bydd yn llawenydd i'ch calon,bydd eich holl gorff yn ffynnu fel llysieuyn;dangosir bod llaw yr ARGLWYDD gyda'i weision,a'i lid yn erbyn ei elynion.

15. Edrychwch, y mae'r ARGLWYDD yn dod â thân,a'i gerbydau fel corwynt,i dalu'r pwyth mewn llid dicllon,ac i geryddu â fflamau tân.

16. Oherwydd trwy dân y bydd yr ARGLWYDD yn barnu,a thrwy gleddyf yn erbyn pob cnawd;a lleddir llawer gan yr ARGLWYDD.

17. “Pawb sy'n ymgysegru ac yn eu puro eu hunain ar gyfer y gerddi, ac yn gorymdeithio trwyddynt, ac yn bwyta cig moch, ymlusgiaid, a llygod—daw diwedd ar eu gwaith a'u bwriad,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66