Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 64 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O na fuaset wedi rhwygo'r nefoedd, a dod i lawr,a'r mynyddoedd yn toddi o'th flaen,

2. fel tân yn llosgi prysgwydd,fel dŵr yn berwi ar dân,er mwyn i'th enw ddod yn hysbys i'th gaseion,ac i'r cenhedloedd grynu yn dy ŵydd!

3. Pan wnaethost bethau ofnadwy heb i ni eu disgwyl,daethost i lawr, a thoddodd y mynyddoedd o'th flaen.

4. Ni chlywodd neb erioed,ni ddaliodd clust, ni chanfu llygadunrhyw Dduw ond tydi,a wnâi ddim dros y rhai sy'n disgwyl wrtho.

5. Rwyt yn cyfarfod â'r rhai sy'n hoffi gwneud cyfiawnder,y rhai sy'n cofio am dy ffyrdd.Er dy fod yn digio pan oeddem ni'n pechu,eto roeddem yn dal i droseddu yn dy erbyn.

6. Aethom i gyd fel peth aflan,a'n holl gyfiawnderau fel clytiau budron;yr ydym i gyd wedi crino fel deilen,a'n camweddau yn ein chwythu i ffwrdd fel y gwynt.

7. Ac nid oes neb yn galw ar dy enw,nac yn trafferthu i afael ynot;cuddiaist dy wyneb oddi wrthym,a'n traddodi i afael ein camweddau.

8. Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad;ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd;gwaith dy ddwylo ydym i gyd.

9. Paid â digio'n llwyr, ARGLWYDD,na chofio camwedd am byth.Edrych, yn awr, dy bobl ydym ni i gyd.

10. Aeth dy ddinasoedd sanctaidd yn anialwch;y mae Seion yn anialwch a Jerwsalem yn anghyfannedd.

11. Y mae ein tŷ sanctaidd a hardd,lle y byddai'n hynafiaid yn dy foliannu,wedi mynd yn lludw,a phob peth annwyl gennym yn anrhaith.

12. A ymateli di, ARGLWYDD, oherwydd y pethau hyn?A dewi di, a'n cystuddio'n llwyr?