Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 63:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Sethrais y bobl yn fy llid,a'u meddwi yn fy nicter,a thywallt eu gwaed ar lawr.”

7. Mynegaf ffyddlondeb yr ARGLWYDD,a chanu ei glodyddam y cyfan a roddodd yr ARGLWYDD i ni,a'i ddaioni mawr i dŷ Israel,am y cyfan a roddodd iddynt o'i drugaredd,ac o lawnder ei gariad di-sigl.

8. Fe ddywedodd, “Yn awr, fy mhobl i ydynt,plant nad ydynt yn twyllo”,a daeth yn Waredydd iddynt yn eu holl gystuddiau.

9. Nid cennad nac angel, ond ef ei hun a'u hachubodd;yn ei gariad ac yn ei dosturi y gwaredodd hwy,a'u codi a'u cario drwy'r dyddiau gynt.

10. Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd;troes yntau'n elyn iddynt,ac ymladd yn eu herbyn.

11. Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt,am Moses a'i bobl.Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môrfugail ei braidd?Ple mae'r un a roes yn eu canol hwyei ysbryd sanctaidd,

12. a pheri i'w fraich ogoneddusarwain deheulaw Moses,a hollti'r dyfroedd o'u blaen,i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 63