Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 63:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Ond buont yn wrthryfelgar, a gofidio'i ysbryd sanctaidd;troes yntau'n elyn iddynt,ac ymladd yn eu herbyn.

11. Yna fe gofiwyd am y dyddiau gynt,am Moses a'i bobl.Ple mae'r un a ddygodd allan o'r môrfugail ei braidd?Ple mae'r un a roes yn eu canol hwyei ysbryd sanctaidd,

12. a pheri i'w fraich ogoneddusarwain deheulaw Moses,a hollti'r dyfroedd o'u blaen,i wneud iddo'i hun enw tragwyddol?

13. Arweiniodd hwy trwy'r dyfnderoedd,fel arwain march yn yr anialwch;

14. mor sicr eu troed ag ych yn mynd i lawr i'r dyffryny tywysodd ysbryd yr ARGLWYDD hwy.Felly yr arweiniaist dy bobl,a gwneud iti enw ardderchog.

15. Edrych i lawr o'r nefoedd,o'th annedd sanctaidd, ardderchog, a gwêl.Ple mae dy angerdd a'th nerth,tynerwch dy galon a'th dosturi?Paid ag ymatal rhagom,

16. oherwydd ti yw ein tad.Er nad yw Abraham yn ein hadnabod,nac Israel yn ein cydnabod,tydi, yr ARGLWYDD, yw ein tad,Ein Gwaredydd yw dy enw erioed.

17. Pam, ARGLWYDD, y gadewaist i ni grwydro oddi ar dy ffyrdd,a chaledu ein calonnau rhag dy ofni?Dychwel, er mwyn dy weision, llwythau dy etifeddiaeth.

18. Pam y sathrodd annuwiolion dy gysegr,ac y sarnodd ein gelynion dy le sanctaidd?

19. Eiddot ti ydym ni erioed;ond ni fuost yn rheoli drostynt hwy,ac ni alwyd dy enw arnynt.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 63