Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 62:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyrnad ydynt yn tewi ddydd na nos;chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD,peidiwch â distewi,

7. na rhoi llonydd iddo,nes iddo sefydlu Jerwsalem,a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.

8. Tyngodd yr ARGLWYDD i'w ddeheulaw ac i'w fraich nerthol,“Ni roddaf dy ŷd byth eto'n ymborth i'th elyn,ac ni chaiff dieithriaid yfed y gwin y llafuriaist amdano;

9. ond y rhai a'i casgla fydd yn bwyta,ac yn diolch i'r ARGLWYDD amdano;y rhai a'i cynnull fydd yn yfedoddi mewn i gynteddau fy nghysegr.”

10. Ewch i mewn, ewch i mewn drwy'r pyrth,paratowch ffordd i'r bobloedd;codwch briffordd a symudwch y cerrig,dyrchafwch arwydd i'r bobloedd.

11. Clywch, cyhoeddodd yr ARGLWYDDi bellafoedd y ddaear,“Dywedwch wrth ferch Seion,‘Y mae dy achubydd yn dyfod;y mae ei wobr yn ei law,ac y mae ei dâl ganddo.’ ”

12. Fe'u gelwir hwy yn Bobl Sanctaidd,Gwaredigion yr ARGLWYDD,ac fe'th elwir di, Yr un a geisiwyd,Dinas nas gwrthodwyd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 62