Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 62:1-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Er mwyn Seion ni thawaf,er mwyn Jerwsalem ni fyddaf ddistaw,hyd oni ddisgleiria'i chyfiawnder yn llachar,a'i hiachawdwriaeth fel ffagl yn llosgi.

2. Bydd y cenhedloedd yn gweld dy gyfiawnder,a'r holl frenhinoedd dy ogoniant;gelwir arnat enw newydd,a roddir i ti o enau'r ARGLWYDD.

3. Byddi'n goron odidog yn llaw'r ARGLWYDD,ac yn dorch frenhinol yn llaw dy Dduw.

4. Ni'th enwir mwyach, Gwrthodedig,ac ni ddywedir drachefn am dy wlad, Anghyfannedd;eithr enwir di, Heffsiba,a'th wlad, Beula,oherwydd ymhyfryda'r ARGLWYDD ynot,a phriodir dy wlad.

5. Fel y bydd llanc yn priodi merch ifanc,bydd dy adeiladydd yn dy briodi di;fel y bydd priodfab yn llawen yn ei briod,felly y bydd dy Dduw yn llawen ynot ti.

6. Ar dy furiau di, O Jerwsalem, gosodais wylwyrnad ydynt yn tewi ddydd na nos;chwi sy'n galw ar yr ARGLWYDD,peidiwch â distewi,

7. na rhoi llonydd iddo,nes iddo sefydlu Jerwsalem,a'i gwneud yn destun moliant trwy'r byd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 62