Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Galwad Eseia

1. Yn y flwyddyn y bu farw'r Brenin Usseia, gwelais yr ARGLWYDD. Yr oedd yn eistedd ar orsedd uchel, ddyrchafedig, a godre'i wisg yn llenwi'r deml.

2. Uwchlaw yr oedd seraffiaid i weini arno, pob un â chwech adain, dwy i guddio'r wyneb, dwy i guddio'r traed, a dwy i ehedeg.

3. Yr oedd y naill yn datgan wrth y llall,“Sanct, Sanct, Sanct yw ARGLWYDD y Lluoedd;y mae'r holl ddaear yn llawn o'i ogoniant.”

4. Ac fel yr oeddent yn galw, yr oedd sylfeini'r rhiniogau'n ysgwyd, a llanwyd y tŷ gan fwg.

5. Yna dywedais, “Gwae fi! Y mae wedi darfod amdanaf! Dyn a'i wefusau'n aflan ydwyf, ac ymysg pobl a'u gwefusau'n aflan yr wyf yn byw; ac eto, yr wyf â'm llygaid fy hun wedi edrych ar y brenin, ARGLWYDD y Lluoedd.”

6. Ond ehedodd un o'r seraffiaid ataf, a dwyn yn ei law farworyn a gymerodd mewn gefel oddi ar yr allor;

7. ac fe'i rhoes i gyffwrdd â'm genau, a dweud, “Wele, y mae hwn wedi cyffwrdd â'th enau; symudwyd dy ddrygioni, a maddeuwyd dy bechod.”

8. Yna clywais yr ARGLWYDD yn dweud,“Pwy a anfonaf? Pwy a â drosom ni?”Atebais innau, “Dyma fi, anfon fi.”

9. Dywedodd,“Dos, dywed wrth y bobl hyn,‘Clywch yn wir, ond peidiwch â deall;edrychwch yn wir, ond peidiwch â dirnad.’

10. Brasâ galon y bobl,trymha eu clustiau,cau eu llygaid;rhag iddynt weld â'u llygaid,clywed â'u clustiau,deall â'u calon,a dychwelyd i'w hiacháu.”

11. Gofynnais innau, “Pa hyd, ARGLWYDD?” Atebodd,“Nes y bydd dinasoedd wedi eu hanrheithioheb drigiannydd,a'r tai heb bobl,a'r wlad yn anrhaith anghyfannedd;

12. nes y bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru pawb ymhell,a difrod mawr yng nghanol y wlad.

13. Ac os erys y ddegfed ran ar ôl ynddi,fe'i llosgir drachefn;fel llwyfen neu dderwen fe'i teflir ymaith,fel boncyff o'r uchelfa.Had sanctaidd yw ei boncyff.”