Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 59:3-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed,a'ch bysedd gan gamwedd;y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd,a'ch tafod yn sibrwd twyll.

4. Nid oes erlynydd tegna diffynnydd gonest,ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll,yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.

5. Y maent yn deor wyau gwiberod,ac yn nyddu gwe pryf copyn;os bwyti o'r wyau, byddi farw;os torri un, daw neidr allan.

6. Nid yw gwe pryf copyn yn gwneud dillad;nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni;ofer yw eu gweithredoedd i gyd,a'u dwylo'n llunio trais.

7. Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd,ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed;bwriadau maleisus yw eu bwriadau,distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;

8. ni wyddant am ffordd heddwch,nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau;y mae eu ffyrdd i gyd yn gam,ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.

9. Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym,ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom;edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn,am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;

10. rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion,yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid;rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos,fel y meirw yn y cysgodion.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 59