Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 59:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Gwthir barn o'r neilltu,ac y mae cyfiawnder yn cadw draw,oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref,ac ni all uniondeb ddod i mewn.

15. Y mae gwirionedd yn eisiau,ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni.Gwelodd yr ARGLWYDD hyn,ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwgnad oedd barn i'w chael.

16. Gwelodd nad oedd neb yn malio,rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd;yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo,a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.

17. Gwisgodd gyfiawnder fel llurig,a helm iachawdwriaeth am ei ben;gwisgodd ddillad dialedd,a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.

18. Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant—llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion;bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.

19. Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin,a'i ogoniant yn y dwyrain;oherwydd fe ddaw fel afon mewn llifyn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.

20. “Fe ddaw gwaredydd i Seion,at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel,”medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 59