Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 59:12-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron,a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn;y mae'n troseddau'n amlwg inni,ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau:

13. gwrthryfela a gwadu'r ARGLWYDD,troi ymaith oddi wrth ein Duw,llefaru trawster a gwrthgilio,myfyrio a dychmygu geiriau celwyddog.

14. Gwthir barn o'r neilltu,ac y mae cyfiawnder yn cadw draw,oherwydd cwympodd gwirionedd ar faes y dref,ac ni all uniondeb ddod i mewn.

15. Y mae gwirionedd yn eisiau,ac ysbeilir yr un sy'n ymwrthod â drygioni.Gwelodd yr ARGLWYDD hyn,ac yr oedd yn ddrwg yn ei olwgnad oedd barn i'w chael.

16. Gwelodd nad oedd neb yn malio,rhyfeddodd nad oedd neb yn ymyrryd;yna daeth ei fraich ei hun â buddugoliaeth iddo,a chynhaliodd ei gyfiawnder ef.

17. Gwisgodd gyfiawnder fel llurig,a helm iachawdwriaeth am ei ben;gwisgodd ddillad dialedd,a rhoi eiddigedd fel mantell amdano.

18. Bydd yn talu i bawb yn ôl ei haeddiant—llid i'w wrthwynebwyr, cosb i'w elynion;bydd yn rhoi eu haeddiant i'r ynysoedd.

19. Felly, ofnant enw'r ARGLWYDD yn y gorllewin,a'i ogoniant yn y dwyrain;oherwydd fe ddaw fel afon mewn llifyn cael ei gyrru gan ysbryd yr ARGLWYDD.

20. “Fe ddaw gwaredydd i Seion,at y rhai yn Jacob sy'n cefnu ar wrthryfel,”medd yr ARGLWYDD.

21. “Dyma,” medd yr ARGLWYDD, “fy nghyfamod â hwy. Bydd fy ysbryd i arnat, a gosodaf fy ngeiriau yn dy enau; nid ymadawant oddi wrthyt nac oddi wrth dy blant, na phlant dy blant, o'r pryd hwn hyd byth,” medd yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 59