1. Nid aeth llaw'r ARGLWYDD yn rhy fyr i achub,na'i glust yn rhy drwm i glywed;
2. ond eich camweddau chwi a ysgaroddrhyngoch a'ch Duw,a'ch pechodau chwi a barodd iddo guddio'i wynebfel nad yw'n eich clywed.
3. Y mae'ch dwylo'n halogedig gan waed,a'ch bysedd gan gamwedd;y mae'ch gwefusau'n dweud celwydd,a'ch tafod yn sibrwd twyll.
4. Nid oes erlynydd tegna diffynnydd gonest,ond y maent yn ymddiried mewn gwegi ac yn llefaru twyll,yn feichiog o niwed ac yn esgor ar ddrygioni.
5. Y maent yn deor wyau gwiberod,ac yn nyddu gwe pryf copyn;os bwyti o'r wyau, byddi farw;os torri un, daw neidr allan.
6. Nid yw gwe pryf copyn yn gwneud dillad;nid oes neb yn gwneud gwisg ohoni;ofer yw eu gweithredoedd i gyd,a'u dwylo'n llunio trais.
7. Y mae eu traed yn rhuthro at gamwedd,ac yn brysio i dywallt gwaed diniwed;bwriadau maleisus yw eu bwriadau,distryw a dinistr sydd ar eu ffyrdd;
8. ni wyddant am ffordd heddwch,nid oes cyfiawnder ar eu llwybrau;y mae eu ffyrdd i gyd yn gam,ac nid oes heddwch i neb sy'n eu cerdded.
9. Am hynny, ciliodd barn oddi wrthym,ac nid yw cyfiawnder yn cyrraedd atom;edrychwn am oleuni, ond tywyllwch a gawn,am ddisgleirdeb, ond mewn caddug y cerddwn;
10. rydym yn ymbalfalu ar y pared fel deillion,yn ymbalfalu fel rhai heb lygaid;rydym yn baglu ganol dydd fel pe bai'n gyfnos,fel y meirw yn y cysgodion.
11. Rydym i gyd yn chwyrnu fel eirth,yn cwyno ac yn cwyno fel colomennod;rydym yn disgwyl am gyfiawnder, ond nis cawn,am iachawdwriaeth, ond ciliodd oddi wrthym.
12. Y mae ein troseddau yn niferus ger dy fron,a'n pechodau yn tystio yn ein herbyn;y mae'n troseddau'n amlwg inni,ac yr ydym yn cydnabod ein camweddau: