Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Gwir Ympryd

1. “Gwaedda'n uchel, paid ag arbed,cod dy lais fel utgorn;mynega eu gwrthryfel i'm pobl,a'u pechod i dŷ Jacob.

2. Y maent yn fy ngheisio'n feunyddiol,ac yn deisyfu gwybod fy ffordd;ac fel cenedl sy'n gweithredu cyfiawnder,heb droi cefn ar farn eu Duw,dônt i ofyn barn gyfiawn gennyf,ac y maent yn deisyfu nesáu at Dduw.

3. “ ‘Pam y gwnawn ympryd, a thithau heb edrych?Pam y'n cystuddiwn ein hunain, a thithau heb sylwi?’ meddant.Yn wir, wrth ymprydio, ceisio'ch lles eich hunain yr ydych,a gyrru ar eich gweision yn galetach.

4. Y mae eich ympryd yn arwain i gynnen a chweryl,a tharo â dyrnod maleisus;nid yw'r fath ddiwrnod o ymprydyn dwyn eich llais i fyny uchod.

5. Ai dyma'r math o ympryd a ddewisais—diwrnod i rywun ei gystuddio'i hun?A yw i grymu ei ben fel brwynen,a gwneud ei wely mewn sachliain a lludw?Ai hyn a elwi yn ympryd,yn ddiwrnod i ryngu bodd i'r ARGLWYDD?

6. “Onid dyma'r dydd ympryd a ddewisais:tynnu ymaith rwymau anghyfiawn,a llacio clymau'r iau,gollwng yn rhydd y rhai a orthrymwyd,a dryllio pob iau?

7. Onid rhannu dy fara gyda'r newynog,a derbyn y tlawd digartref i'th dŷ,dilladu'r noeth pan y'i gweli,a pheidio ag ymguddio rhag dy deulu dy hun?

8. Yna fe ddisgleiria d'oleuni fel y wawr,a byddi'n ffynnu mewn iechyd yn fuan;bydd dy gyfiawnder yn mynd o'th flaen,a gogoniant yr ARGLWYDD yn dy ddilyn.

9. Pan elwi, bydd yr ARGLWYDD yn ateb,a phan waeddi, fe ddywed, ‘Dyma fi.’“Os symudi'r gorthrwm ymaith,os peidi â chodi bys i gyhuddo ar gam,

10. os rhoddi o'th fodd i'r anghenus,a diwallu angen y cystuddiol,yna cyfyd goleuni i ti o'r tywyllwch,a bydd y caddug fel canol dydd.

11. Bydd yr ARGLWYDD yn dy arwain bob amser,yn diwallu dy angen mewn cyfnod sych,ac yn cryfhau dy esgyrn;yna byddi fel gardd ddyfradwy,ac fel ffynnon ddŵra'i dyfroedd heb ballu.

12. Byddi rhai ohonoch yn adeiladu'r hen furddunnodac yn codi ar yr hen sylfeini;fe'th elwir yn gaewr bylchau,ac yn adferwr tai adfeiliedig.

13. “Os peidi â sathru'r Saboth dan draed,a pheidio â cheisio dy les dy hun ar fy nydd sanctaidd,ond galw'r Saboth yn hyfrydwch,a dydd sanctaidd yr ARGLWYDD yn ogoneddus;os anrhydeddi ef, trwy beidio â theithio,na cheisio dy les na thrafod dy faterion dy hun;

14. yna cei foddhad yn yr ARGLWYDD.Cei farchogaeth ar uchelfannau'r ddaear,a phorthaf di ag etifeddiaeth dy dad Jacob.”Y mae genau'r ARGLWYDD wedi llefaru.