Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 57:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Oherwydd fel hyn y dywed yr uchel a dyrchafedig,sydd â'i drigfan yn nhragwyddoldeb,a'i enw'n Sanctaidd:“Er fy mod yn trigo mewn uchelder sanctaidd,rwyf gyda'r cystuddiol ac isel ei ysbryd,i adfywio'r rhai isel eu hysbryd,a bywhau calon y rhai cystuddiol.

16. Ni fyddaf yn ymryson am bythnac yn dal dig yn dragywydd,rhag i'w hysbryd ballu o'm blaen;oherwydd myfi a greodd eu hanadl.

17. Digiais wrtho am ei wanc pechadurus,a'i daro, a throi mewn dicter oddi wrtho;aeth yntau rhagddo'n gyndyn yn ei ffordd ei hun,

18. ond gwelais y ffordd yr aeth.Iachâf ef, a rhoi gorffwys iddo;

19. cysuraf ef, a rhoi geiriau cysur i'w alarwyr.Heddwch i'r pell ac i'r agos,”medd yr ARGLWYDD, “a mi a'i hiachâf ef.”

20. Ond y mae'r drygionus fel môr tonnogna fedr ymdawelu,a'i ddyfroedd yn corddi llaid a baw.

21. “Nid oes heddwch i'r drygionus,”medd fy Nuw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 57