9. Bloeddiwch, cydganwch, chwi adfeilion Jerwsalem,oherwydd tosturiodd yr ARGLWYDD wrth ei bobl,a gwaredodd Jerwsalem.
10. Dinoethodd yr ARGLWYDD ei fraich sanctaiddyng ngŵydd yr holl genhedloedd,ac fe wêl holl gyrrau'r ddaeariachawdwriaeth ein Duw ni.
11. Allan! Allan! Ymaith â chwi!Peidiwch â chyffwrdd â dim aflan.Ewch allan o'i chanol, glanhewch eich hunain,chwi sy'n cludo llestri'r ARGLWYDD.
12. Nid ar ffrwst yr ewch allan,ac nid fel ffoaduriaid y byddwch yn ymadael,oherwydd bydd yr ARGLWYDD ar y blaen,a Duw Israel y tu cefn i chwi.