Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 50:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Ple, felly, mae llythyr ysgar eich mam,a roddais i'w gyrru ymaith?Neu, i ba echwynnwr y gwerthais chwi?O achos eich camweddau y gwerthwyd chwi,ac oherwydd eich troseddau y gyrrwyd eich mam ymaith.

2. Pam nad oedd neb yma pan ddeuthum,na neb yn ateb pan elwais?A yw fy llaw yn rhy fyr i achub,neu a wyf yn rhy wan i waredu?Gwelwch, rwy'n sychu'r môr â'm dicter,ac yn troi afonydd yn ddiffeithwch;y mae eu pysgod yn drewi o ddiffyg dŵr,ac yn trengi o sychder.

3. Rwy'n gwisgo'r nefoedd â galarwisg,ac yn rhoi sachliain yn amdo iddynt.”

4. Rhoes yr ARGLWYDD Dduw i mi dafod un yn dysgu,i wybod sut i gynnal y diffygiol â gair;bob bore y mae'n agor fy nghlusti wrando fel un yn dysgu.

5. Agorodd yr ARGLWYDD Dduw fy nghlust,ac ni wrthwynebais innau, na chilio'n ôl.

6. Rhoddais fy nghefn i'r curwyr,a'm cernau i'r rhai a dynnai'r farf;ni chuddiais fy wyneb rhag gwaradwydd na phoer.

7. Y mae'r Arglwydd DDUW yn fy nghynnal,am hynny ni chaf fy sarhau;felly gosodaf fy wyneb fel callestr,a gwn na'm cywilyddir.

8. Y mae'r hwn sy'n fy nghyfiawnhau wrth law.Pwy a ddadlau i'm herbyn? Gadewch i ni wynebu'n gilydd;pwy a'm gwrthwyneba? Gadewch iddo nesáu ataf.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 50