Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 5:14-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Am hynny, lledodd Sheol ei llwnc,ac agor ei cheg yn ddiderfyn;fe lyncir y bonedd a'r werin,ei thyrfa a'r sawl a ymffrostia ynddi.

15. Darostyngir gwreng a bonedd,a syrth llygad y balch;

16. ond dyrchefir ARGLWYDD y Lluoedd mewn barn,a sancteiddir y Duw sanctaidd mewn cyfiawnder.

17. Yna bydd ŵyn yn pori fel yn eu cynefin,a'r mynnod geifr yn bwyta ymysg yr adfeilion.

18. Gwae'r rhai sy'n tynnu drygioni â rheffynnau oferedd,a phechod megis â rhaffau men,

19. y rhai sy'n dweud, “Brysied,prysured gyda'i orchwyl, inni gael gweld;doed pwrpas Sanct Israel i'r golwg, inni wybod beth yw.”

20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn dda, a da yn ddrwg,sy'n gwneud tywyllwch yn oleuni, a goleuni yn dywyllwch,sy'n gwneud chwerw yn felys a melys yn chwerw.

21. Gwae'r rhai sy'n ddoeth yn eu golwg eu hunain,ac yn gall yn eu tyb eu hunain.

22. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin,ac yn gryfion wrth gymysgu diod gadarn,

23. y rhai sy'n cyfiawnhau'r euog am wobr,ac yn gwrthod cyfiawnder i'r cyfiawn.

24. Am hynny, fel yr ysir y sofl gan dafod o dânac y diflanna'r mân us yn y fflam,felly y pydra eu gwreiddynac y diflanna eu blagur fel llwch;am iddynt wrthod cyfraith ARGLWYDD y Lluoedd,a dirmygu gair Sanct Israel.

25. Am hynny enynnodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn ei bobl,ac estynnodd ei law yn eu herbyn, a'u taro;fe grynodd y mynyddoedd,a gorweddai'r celanedd fel ysgarthion ar y strydoedd.Er hynny ni throdd ei lid ef,ac y mae'n dal i estyn allan ei law.

26. Fe gyfyd faner i genhedloedd pell,a chwibana arnynt o eithaf y ddaear,ac wele, fe ddônt yn fuan a chwim.

27. Nid oes neb yn blino nac yn baglu,nid oes neb yn huno na chysgu,nid oes neb a'i wregys wedi ei ddatod,nac a charrai ei esgidiau wedi ei thorri.

28. Y mae eu saethau'n llyma'u bwâu i gyd yn dynn;y mae carnau eu meirch fel callestr,ac olwynion eu cerbydau fel corwynt.

29. Y mae eu rhuad fel llew;rhuant fel llewod ifanc,sy'n chwyrnu wrth afael yn yr ysglyfaetha'i dwyn ymaith, heb neb yn ei harbed.

30. Rhuant arni yn y dydd hwnnw,fel rhuad y môr;ac os edrychir tua'r tir, wele dywyllwch a chyfyngdra,a'r goleuni yn tywyllu gan ei gymylau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 5