Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:8-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Atebaf di yn adeg ffafr,a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth;cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl;adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;

9. a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’,ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’.Cânt bori ar fin y ffyrdda chael porfa ar y moelydd.

10. Ni newynant ac ni sychedant,ni fydd gwres na haul yn eu taro,oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain,ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr.

11. Gwnaf bob mynydd yn ffordd,a llenwi o dan fy llwybrau.

12. Y mae rhai yn dod o bell,a rhai o'r gogledd a'r gorllewin,ac eraill o wlad Sinim.”

13. Cân, nefoedd; gorfoledda, ddaear;bloeddiwch ganu, fynyddoedd.Canys y mae'r ARGLWYDD yn cysuro ei bobl,ac yn tosturio wrth ei drueiniaid.

14. Dywedodd Seion, “Gwrthododd yr ARGLWYDD fi,ac anghofiodd fy Arglwydd fi.”

15. “A anghofia gwraig ei phlentyn sugno,neu fam blentyn ei chroth?Fe allant hwy anghofio,ond nid anghofiaf fi di.

16. Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo;y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid;

17. y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio,ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.

18. Edrych o'th amgylch, a gwêl;y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat.Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD,“byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn,ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.

19. Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaithyn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr,gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.

20. Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alaryn dweud eto'n hyglyw,‘Nid oes digon o le i mi;symud draw, i mi gael lle i fyw.’

21. “Yna y dywedi ynot dy hun,‘Pwy a genhedlodd y rhain i mi,a minnau'n weddw ac yn ddi-blant?Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref;pwy a'u magodd hwy?Yn wir, roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;o ble, ynteu, y daeth y rhain?’ ”

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Rhof arwydd â'm llaw i'r cenhedloedd,a chodaf fy maner i'r bobloedd,a dygant dy feibion yn eu mynwes,a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.

23. Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti,a'u tywysogesau yn famau maeth iti;plygant i'r llawr o'th flaena llyfu llwch dy draed;yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49