Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:16-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Edrych, rwyf wedi dy gerfio ar gledr fy nwylo;y mae dy furiau bob amser o flaen fy llygaid;

17. y mae dy adeiladwyr yn gyflymach na'r rhai sy'n dy ddinistrio,ac y mae dy anrheithwyr wedi mynd ymaith.

18. Edrych o'th amgylch, a gwêl;y mae pawb yn ymgasglu ac yn dod atat.Cyn wired â'm bod yn fyw,” medd yr ARGLWYDD,“byddi'n eu gwisgo i gyd fel addurn,ac yn eu rhwymo amdanat fel y gwna priodferch.

19. Bydd dy ddiffeithwch a'th anialwch a'th dir anrhaithyn rhy gyfyng bellach i'th breswylwyr,gan fod dy ddifodwyr ymhell i ffwrdd.

20. Bydd y plant a anwyd yn nydd dy alaryn dweud eto'n hyglyw,‘Nid oes digon o le i mi;symud draw, i mi gael lle i fyw.’

21. “Yna y dywedi ynot dy hun,‘Pwy a genhedlodd y rhain i mi,a minnau'n weddw ac yn ddi-blant?Yr oeddwn i mewn caethglud ac yn ddigartref;pwy a'u magodd hwy?Yn wir, roeddwn i wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun;o ble, ynteu, y daeth y rhain?’ ”

22. Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW:“Rhof arwydd â'm llaw i'r cenhedloedd,a chodaf fy maner i'r bobloedd,a dygant dy feibion yn eu mynwes,a chludo dy ferched ar eu hysgwydd.

23. Bydd brenhinoedd yn dadau maeth iti,a'u tywysogesau yn famau maeth iti;plygant i'r llawr o'th flaena llyfu llwch dy draed;yna y cei wybod mai myfi yw'r ARGLWYDD,ac na siomir neb sy'n disgwyl wrthyf.”

24. A ddygir ysbail oddi ar y cadarn?A ryddheir carcharor o law'r gormeswr?

25. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Fe ddygir carcharor o law'r cadarn,ac fe ryddheir ysbail o law'r gormeswr;myfi fydd yn dadlau â'th gyhuddwr,ac yn gwaredu dy blant.

26. Gwnaf i'th orthrymwyr fwyta'u cnawd eu hunain,a meddwaf hwy â'u gwaed eu hunain fel â gwin;yna caiff pawb wybodmai myfi, yr ARGLWYDD, yw dy Waredydd,ac mai Un Cadarn Jacob yw dy Achubydd.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49