Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwrandewch arnaf, chwi ynysoedd,rhowch sylw, chwi bobl o bell.Galwodd yr ARGLWYDD fi o'r groth;o fru fy mam fe'm henwodd.

2. Gwnaeth fy ngenau fel cleddyf llym,a'm cadw yng nghysgod ei law;gwnaeth fi yn saeth loyw,a'm cuddio yng nghawell ei saethau.

3. Dywedodd wrthyf, “Fy ngwas wyt ti;ynot ti, Israel, y caf ogoniant.”

4. Dywedais innau, “Llafuriais yn ofer,a threuliais fy nerth i ddim;er hynny y mae fy achos gyda'r ARGLWYDDa'm gwobr gyda'm Duw.”

5. Ac yn awr, llefarodd yr ARGLWYDD,a'm lluniodd o'r groth yn was iddo,i adfer Jacob iddo a chasglu Israel ato,i'm gogoneddu yng ngŵydd yr ARGLWYDD,am fod fy Nuw yn gadernid i mi.

6. Dywedodd, “Peth bychan yw i ti fod yn was i mi,i godi llwythau Jacob ar eu traed,ac adfer rhai cadwedig Israel;fe'th wnaf di yn oleuni i'r cenhedloedd,i'm hiachawdwriaeth gyrraedd hyd eithaf y ddaear.”

7. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,Gwaredydd Israel, a'i Sanct,wrth yr un a ddirmygir ac a ffieiddir gan bobloedd,wrth gaethwas y trahaus:“Bydd brenhinoedd yn sefyll pan welant,a'r tywysogion yn ymgrymu,o achos yr ARGLWYDD, sy'n ffyddlon,a Sanct Israel, a'th ddewisodd di.”

8. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Atebaf di yn adeg ffafr,a'th gynorthwyo ar ddydd iachawdwriaeth;cadwaf di, a'th osod yn gyfamod i'r bobl;adferaf y tir a rhannu'r tiroedd anrhaith yn etifeddiaeth;

9. a dywedaf wrth y carcharorion, ‘Ewch allan’,ac wrth y rhai mewn tywyllwch, ‘Dewch i'r golau’.Cânt bori ar fin y ffyrdda chael porfa ar y moelydd.

10. Ni newynant ac ni sychedant,ni fydd gwres na haul yn eu taro,oherwydd un sy'n tosturio wrthynt sy'n eu harwain,ac yn eu tywys at ffynhonnau o ddŵr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49