Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. “Dewch bawb at eich gilydd a gwrando;pwy ohonynt a fynegodd hyn?Yr un y mae'r ARGLWYDD yn ei hoffifydd yn cyflawni ei fwriad ar Fabilon ac ar had y Caldeaid.

15. Myfi fy hun a lefarodd, myfi a'i galwodd;dygais ef allan, a llwyddo ei ffordd.

16. Dewch ataf, clywch hyn:O'r dechrau ni leferais yn ddirgel;o'r amser y digwyddodd, yr oeddwn i yno.”Ac yn awr ysbryd yr Arglwydd DDUWa'm hanfonodd i.

17. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD,dy Waredydd, Sanct Israel:“Myfi yw'r ARGLWYDD dy Dduw,sy'n dy ddysgu er dy les,ac yn dy arwain yn y ffordd y dylit ei cherdded.

18. Pe bait wedi gwrando ar fy ngorchymyn,byddai dy heddwch fel yr afon,a'th gyfiawnder fel tonnau'r môr;

19. a byddai dy had fel y tywod,a'th epil fel ei raean,a'u henw heb ei dorri ymaith na'i ddileu o'm gŵydd.”

20. Ewch allan o Fabilon, ffowch oddi wrth y Caldeaid;mynegwch hyn gyda bloedd gorfoledd,cyhoeddwch ef, a'i hysbysu hyd gyrrau'r ddaear;dywedwch, “Yr ARGLWYDD a waredodd ei was Jacob.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48