1. “Gwrandewch hyn, dŷ Jacob,y rhai a elwir ar enw Israel,sy'n tarddu o had Jwda,sy'n tyngu yn enw'r ARGLWYDDac yn galw ar Dduw Israel,heb fod yn onest na didwyll.
2. Galwant eu hunain yn bobl y ddinas sanctaidd,a phwyso ar Dduw Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.
3. “Mynegais y pethau cyntaf erstalwm,eu cyhoeddi â'm genau fy hun a'u gwneud yn hysbys;ar drawiad gweithredais, a pheri iddynt ddigwydd.
4. Gwyddwn dy fod yn ystyfnig,a'th war fel gewyn haearn,a'th dalcen fel pres;
5. am hynny rhois wybod i ti erstalwm,a'th hysbysu cyn iddynt ddigwydd,rhag i ti ddweud, ‘Fy nelw a'u gwnaeth,fy eilun a'm cerfddelw a'u trefnodd.’
6. Clywaist a gwelaist hyn i gyd;onid ydych am ei gydnabod?Ac yn awr rwyf am fynegi i chwi bethau newydd,pethau cudd na wyddoch ddim amdanynt.
7. Yn awr y crëwyd hwy, ac nid erstalwm,ac ni chlywaist ddim amdanynt cyn heddiw,rhag i ti ddweud, ‘Roeddwn i'n gwybod.’
8. Nid oeddit wedi clywed na gwybod;erstalwm roedd dy glust heb agor;oherwydd gwyddwn dy fod yn dwyllodrus i'r eithaf,ac iti o'r bru gael yr enw o fod yn droseddwr.”
9. “Er mwyn fy enw ateliais fy llid,er mewn fy moliant ymateliais rhag dy ddifa.
10. Purais di, ond nid fel arian;profais di ym mhair cystudd.