Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 47:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Disgyn, ac eistedd yn y lludw,ti, ferch wyry Babilon.Eistedd ar y llawr yn ddiorsedd,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn dyner a moethus.

2. Cymer y meini melin i falu blawd,tyn dy orchudd,rhwyga dy sgert, dangos dy gluniau,rhodia trwy ddyfroedd.

3. Dangoser dy noethni,a gweler dy warth.Dygaf ddial, ac nid arbedaf neb.”

4. Ein Gwaredydd yw Sanct Israel; ARGLWYDD y Lluoedd yw ei enw.

5. “Eistedd yn fud, dos i'r tywyllwch,ti, ferch y Caldeaid;ni'th elwir byth eto yn arglwyddes y teyrnasoedd.

6. Digiais wrth fy mhobl,halogais fy etifeddiaeth,rhoddais hwy yn dy law;ond ni chymeraist drugaredd arnynt,gwnaethost yr iau yn drwm ar yr oedrannus.

7. Dywedaist, ‘Byddaf yn arglwyddes hyd byth’,ond nid oeddit yn ystyried hyn,nac yn cofio sut y gallai ddiweddu.

8. Yn awr, ynteu, gwrando ar hyn,y foethus, sy'n eistedd mor gyfforddus,sy'n dweud wrthi ei hun, ‘Myfi, does neb ond myfi.Ni fyddaf fi'n eistedd yn weddw,nac yn gwybod beth yw colli plant.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 47