Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 44:16-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Ie, y mae'n llosgi'r hanner yn dân,ac yn rhostio cig arno,ac yn bwyta'i wala;y mae hefyd yn ymdwymo a dweud,“Y mae blas ar dân;peth braf yw gweld y fflam.”

17. O'r gweddill y mae'n gwneud delw i fod yn dduw,ac yn ymgrymu iddo a'i addoli;y mae'n gweddïo arno a dweud,“Gwared fi; fy nuw ydwyt.”

18. Nid yw'r bobl yn gwybod nac yn deall;aeth eu llygaid yn ddall rhag gweld,a'u deall rhag amgyffred.

19. Nid yw neb wedi troi'r peth yn ei feddwl,nac yn gwybod nac yn deall, i ddweud,“Llosgais hanner yn dân, a chrasu bara yn y marwor;rhostiais gig a'i fwyta;ac o'r gweddill rwy'n gwneud ffieiddbeth,ac yn ymgrymu i ddarn o bren.”

20. Yn wir y mae'n ymborthi ar ludw,a'i feddwl crwydredig wedi ei yrru ar gyfeiliorn;ni all ei waredu ei hun a dweud,“Onid twyll yw'r hyn sydd yn fy llaw?”

21. “Ystyria hyn, Jacob,oherwydd fy ngwas wyt ti, Israel.Lluniais di, gwas i mi wyt ti;O Israel, paid â'm hanghofio.

22. Dileais dy gamweddau fel cwmwl,a'th bechodau fel niwl;dychwel ataf, canys yr wyf wedi dy waredu.”

23. Canwch, nefoedd, oherwydd yr ARGLWYDD a wnaeth hyn;gwaeddwch, ddyfnderoedd daear;bloeddiwch, O fynyddoedd,a'r goedwig a phob coeden o'i mewn;y mae'r ARGLWYDD wedi gwaredu Jacob,a chael gogoniant yn Israel.

24. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, dy Waredydd,a'r hwn a'th luniodd o'r groth:“Myfi, yr ARGLWYDD, a wnaeth y cyfan—estyn y nefoedd fy hunan,a lledu'r ddaear heb neb gyda mi;

25. diddymu arwyddion celwyddog,gwneud ffyliaid o'r rhai sy'n dewino;troi doethion yn eu hôl,a gwneud eu gwybodaeth yn ynfydrwydd;

26. cadarnhau gair ei was,a chyflawni cyngor ei genhadon;dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th breswylir’,ac wrth ddinasoedd Jwda, ‘Fe'ch adeiledircyfodaf drachefn eich adfeilion’;

27. dweud wrth y dyfnder, ‘Bydd sych,rwy'n sychu hefyd d'afonydd’;

28. dweud wrth Cyrus, ‘Fy Mugail’,ac fe gyflawna fy holl fwriad;dweud wrth Jerwsalem, ‘Fe'th adeiledir’,ac wrth y deml, ‘Fe'th sylfaenir’.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 44