1. “Yn awr, gwrando, fy ngwas Jacob,Israel, yr hwn a ddewisais;
2. dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD a'th wnaeth,a'th luniodd o'r groth ac a'th gynorthwya:Paid ag ofni, fy ngwas Jacob,Jesurun, yr hwn a ddewisais.
3. Tywalltaf ddyfroedd ar y tir sychediga ffrydiau ar y sychdir;tywalltaf fy ysbryd ar dy hada'm bendith ar dy hiliogaeth.
4. Tarddant allan fel glaswellt,fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd.
5. Dywed un, ‘Rwyf fi'n perthyn i'r ARGLWYDD’;bydd un arall yn cymryd enw Jacob,ac un arall drachefn yn ei arwyddo'i hun, ‘Eiddo'r ARGLWYDD’,ac yn ei gyfenwi ei hun, ‘Israel’.”
6. Dyma a ddywed yr ARGLWYDD, brenin Israel, ARGLWYDD y Lluoedd, ei Waredydd:“Myfi yw'r cyntaf, a myfi yw'r olaf;nid oes duw ond myfi.
7. Pwy sy'n debyg i mi? Bydded iddo ddatgan,a mynegi a gosod ei achos ger fy mron.Pwy a gyhoeddodd erstalwm y pethau sydd i ddod?Dyweded wrthym beth sydd i ddigwydd.
8. Peidiwch ag ofni na dychryn;oni ddywedais wrthych erstalwm?Fe fynegais, a chwi yw fy nhystion.A oes duw ond myfi?Nid oes craig. Ni wn i am un.”
9. Y mae pawb sy'n gwneud eilunod yn ddiddim,ac nid oes lles yng ngwrthrych eu serch;y mae eu tystion heb weld a heb wybod,ac o'r herwydd fe'u cywilyddir.
10. Pwy sy'n gwneud duw neu'n cerfio delwos nad yw'n elw iddo?