15. Myfi, yr ARGLWYDD, yw eich Sanct;creawdwr Israel yw eich brenin.”
16. Dyma'r hyn a ddywed yr ARGLWYDD,a agorodd ffordd yn y môra llwybr yn y dyfroedd enbyd;
17. a ddug allan gerbyd a march,byddin a dewrion,a hwythau'n gorwedd heb neb i'w codi,yn darfod ac yn diffodd fel llin:
18. “Peidiwch â meddwl am y pethau gynt,peidiwch ag aros gyda'r hen hanes.
19. Edrychwch, rwyf yn gwneud peth newydd;y mae'n tarddu yn awr; oni allwch ei adnabod?Yn wir, rwy'n gwneud ffordd yn yr anialwch,ac afonydd yn y diffeithwch.
20. Bydd anifeiliaid gwylltion yn fy mawrygu,y bleiddiaid a'r estrys,am imi roi dŵr yn yr anialwchac afonydd yn y diffeithwch,er mwyn rhoi dŵr i'm pobl, f'etholedig,
21. sef y bobl a luniais i mi fy hun,iddynt fynegi fy nghlod.
22. “Jacob, ni elwaist arnaf fi,ond blinaist arnaf, Israel.
23. Ni ddygaist i mi ddafad yn boethoffrwm,na'm hanrhydeddu â'th ebyrth;ni roddais faich bwydoffrwm arnat,na'th flino am arogldarth.
24. Ni phrynaist i mi galamus ag arian,na'm llenwi â'th ebyrth breision;ond rhoddaist dy bechodau yn faich arnaf,blinaist fi â'th gamweddau.