Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 42:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal,f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.Rhoddais fy ysbryd ynddo,i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.

2. Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais,na pheri ei glywed yn yr heol.

3. Ni fydd yn dryllio corsen ysig,nac yn diffodd llin yn mygu;bydd yn cyhoeddi barn gywir.

4. Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio,nes iddo osod barn ar y ddaear;y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 42