Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 42:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Dyma fy ngwas, yr wyf yn ei gynnal,f'etholedig, yr wyf yn ymhyfrydu ynddo.Rhoddais fy ysbryd ynddo,i gyhoeddi barn i'r cenhedloedd.

2. Ni fydd yn gweiddi nac yn codi ei lais,na pheri ei glywed yn yr heol.

3. Ni fydd yn dryllio corsen ysig,nac yn diffodd llin yn mygu;bydd yn cyhoeddi barn gywir.

4. Ni fydd yn diffodd, ac ni chaiff ei ddryllio,nes iddo osod barn ar y ddaear;y mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei gyfraith.”

5. Fel hyn y dywed Duw, yr ARGLWYDD,a greodd y nefoedd a'i thaenu allan,a luniodd y ddaear a'i chynnyrch,a roddodd anadl i'r bobl sydd arni,ac ysbryd i'r rhai sy'n rhodio ynddi:

6. “Myfi yw'r ARGLWYDD;gelwais di mewn cyfiawnder,a gafael yn dy law;lluniais di a'th osod yn gyfamod pobl,yn oleuni cenhedloedd;

7. i agor llygaid y deillion,i arwain caethion allan o'r carchar,a'r rhai sy'n byw mewn tywyllwch o'u cell.

8. Myfi yw'r ARGLWYDD, dyna fy enw;ni roddaf fy ngogoniant i neb arall,na'm clod i ddelwau cerfiedig.

9. Wele, y mae'r pethau cyntaf wedi digwydd,a mynegaf yn awr bethau newydd;cyn iddynt darddu rwy'n eu hysbysu ichwi.”

10. Canwch i'r ARGLWYDD gân newydd,canwch ei glod o eithaf y ddaear;bydded i'r môr a'i gyflawnder ei ganmol,yr ynysoedd a'r rhai sy'n trigo ynddynt.

11. Bydded i'r diffeithwch a'i ddinasoedd godi llef,y pentrefi lle mae Cedar yn trigo;bydded i drigolion Sela ganua bloeddio o ben y mynyddoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 42