Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. “Rhowch sylw astud i mi, chwi ynysoedd,bydded i'r bobl nesáu;bydded iddynt nesáu a llefaru;down ynghyd i farn.

2. “Pwy sy'n codi un o'r dwyrain,a buddugoliaeth yn ei gyfarfod bob cam?Y mae'n bwrw cenhedloedd i lawr o'i flaen,ac yn darostwng brenhinoedd.Y mae'n eu gwneud fel llwch â'i gleddyf,fel us yn chwyrlïo â'i fwa.

3. Y mae'n eu hymlid, ac yn tramwyo'n ddiogelar hyd llwybr na throediodd o'r blaen.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41