Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 40:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Codwch eich llygaid i fyny;edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn?Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul unac yn rhoi enw i bob un ohonynt?Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf,nid oes yr un ar ôl.

27. Pam y dywedi, O Jacob,ac y lleferi, O Israel,“Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD,ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw”?

28. Oni wyddost, oni chlywaist?Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDDa greodd gyrrau'r ddaear;ni ddiffygia ac ni flina,ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.

29. Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol,ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym.

30. Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino,a'r cryfion yn syrthio'n llipa;

31. ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDDyn adennill eu nerth;y maent yn magu adenydd fel eryr,yn rhedeg heb flino,ac yn rhodio heb ddiffygio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 40