Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 40:21-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Oni wyddoch? Oni chlywsoch?Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad?Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?

22. Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear,a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid.Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen,ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.

23. Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim,a rheolwyr y ddaear yn dryblith.

24. Prin eu bod wedi eu plannu na'u hau,prin bod eu gwraidd wedi cydio yn y pridd,nag y bydd ef yn chwythu arnynt, a hwythau'n gwywo,a chorwynt yn eu dwyn ymaith fel us.

25. “I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi?Tebyg i bwy?” meddai'r Sanct.

26. Codwch eich llygaid i fyny;edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn?Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul unac yn rhoi enw i bob un ohonynt?Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf,nid oes yr un ar ôl.

27. Pam y dywedi, O Jacob,ac y lleferi, O Israel,“Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD,ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw”?

28. Oni wyddost, oni chlywaist?Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDDa greodd gyrrau'r ddaear;ni ddiffygia ac ni flina,ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.

29. Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol,ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym.

30. Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino,a'r cryfion yn syrthio'n llipa;

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 40