13. Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD,a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?
14. Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall,a phwy a ddysg iddo lwybrau barn?Pwy a ddysg iddo wybodaeth,a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?
15. Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn,i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau;y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.
16. Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd,na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.
17. Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef;y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.
18. I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw?Pa lun a dynnwch ohono?
19. Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno,ac eurych yn ei goreuroac yn gwneud cadwyni arian iddi.
20. Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynnyyn dewis darn o bren na phydra,ac yn ceisio crefftwr cywraini'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd.
21. Oni wyddoch? Oni chlywsoch?Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad?Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?
22. Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear,a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid.Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen,ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.