Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 40:13-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD,a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?

14. Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall,a phwy a ddysg iddo lwybrau barn?Pwy a ddysg iddo wybodaeth,a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?

15. Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn,i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau;y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.

16. Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd,na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.

17. Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef;y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.

18. I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw?Pa lun a dynnwch ohono?

19. Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno,ac eurych yn ei goreuroac yn gwneud cadwyni arian iddi.

20. Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynnyyn dewis darn o bren na phydra,ac yn ceisio crefftwr cywraini'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 40