Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 40:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Cysurwch, cysurwch fy mhobl—dyna a ddywed eich Duw.

2. Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem,a dywedwch wrthiei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaetha bod ei chosb wedi ei thalu,ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDDam ei holl bechodau.

3. Llais un yn galw,“Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD,unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni.

4. Caiff pob pant ei godi,pob mynydd a bryn ei ostwng;gwneir y tir ysgythrog yn llyfn,a'r tir anwastad yn wastadedd.

5. Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD,a phawb ynghyd yn ei weld.Genau'r ARGLWYDD a lefarodd.”

6. Llais un yn dweud, “Galw”;a daw'r ateb, “Beth a alwaf?Y mae pob un meidrol fel glaswellt,a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.

7. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywopan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno.Yn wir, glaswellt yw'r bobl.

8. Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”

9. Dring i fynydd uchel;ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,cod dy lais yn gryf;ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,gwaedda, paid ag ofni.Dywed wrth ddinasoedd Jwda,“Dyma eich Duw chwi.”

10. Wele'r Arglwydd DDUWyn dod mewn nerth,yn rheoli â'i fraich.Wele, y mae ei wobr ganddo,a'i dâl gydag ef.

11. Y mae'n porthi ei braidd fel bugail,ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd;y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl,ac yn coleddu'r mamogiaid.

12. Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law,a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant?Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol,a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol,a'r bryniau mewn clorian?

13. Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD,a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?

14. Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall,a phwy a ddysg iddo lwybrau barn?Pwy a ddysg iddo wybodaeth,a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?

15. Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn,i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau;y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 40