Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dydd hwnnw,bydd saith o fenywod yn ymaflyd mewn un gŵr,a dweud,“Bwytawn ein bara ein hunain,a gwisgo ein dillad ein hunain;yn unig galwer ni wrth dy enw di,a symud ymaith ein gwaradwydd.”

2. Yn y dydd hwnnw,bydd blaguryn yr ARGLWYDDyn brydferthwch ac yn ogoniant;a bydd ffrwyth y tir yn falchder ac yn brydferthwchi'r rhai dihangol yn Israel.

3. Yna gelwir yn sanctaidd bob un sydd ar ôl yn Seion ac wedi ei adael yn Jerwsalem, pob un y cofnodir ei fod yn fyw yn Jerwsalem.

4. Pan fydd yr ARGLWYDD wedi golchi ymaith fudreddi merched Seion, a charthu gwaed Jerwsalem o'i chanol trwy ysbryd barn ac ysbryd tanllyd,

5. yna fe grea'r ARGLWYDD gwmwl yn y dydd, a llewyrch tân fflamllyd yn y nos, uwchben pob adeilad ar Fynydd Seion a phob man ymgynnull. Canys bydd y gogoniant yn ortho dros bopeth,

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 4