5. “Dos, dywed wrth Heseceia, ‘Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw dy dad Dafydd: Clywais dy weddi a gwelais dy ddagrau; yn awr rwyf am ychwanegu pymtheng mlynedd at dy ddyddiau.
6. A gwaredaf di a'r ddinas hon o afael brenin Asyria, a byddaf yn gysgod dros y ddinas hon.
7. Dyma arwydd i ti oddi wrth yr ARGLWYDD, y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud yr hyn a ddywedodd.
8. Edrych, yr wyf yn peri i'r cysgod deflir ar risiau Ahas gan yr haul fynd yn ei ôl ddeg o risiau.’ ” Ac aeth yr haul yn ei ôl ddeg o'r grisiau yr oedd eisoes wedi mynd i lawr drostynt.
9. Cerdd Heseceia brenin Jwda, pan fu'n glaf ac yna gwella o'i glefyd:
10. Dywedais, “Yn anterth fy nyddiau rhaid i mi fynd,a chael fy symud i byrth y bedd weddill fy mlynyddoedd”;
11. dywedais, “Ni chaf weld yr ARGLWYDDyn nhir y rhai byw,ac ni chaf edrych eto ar neb o drigolion y byd.
12. Dygwyd fy nhrigfan oddi arnafa'i symud i ffwrdd fel pabell bugail;fel gwehydd rwy'n dirwyn fy nyddiau i ben,i'w torri ymaith o'r gwŷdd.O fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.
13. O fel rwy'n dyheu am y bore!Maluriwyd fy esgyrn fel gan lew;o fore hyd nos rwyt yn fy narostwng.
14. Rwy'n trydar fel gwennol neu fronfraith,rwy'n cwynfan fel colomen.Blinodd fy llygaid ar edrych i fyny;O ARGLWYDD, pledia ar fy rhan a bydd yn feichiau drosof.”