Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 38:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn y dyddiau hynny aeth Heseceia'n glaf hyd farw, a daeth y proffwyd Eseia fab Amos ato a dweud, “Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: ‘Trefna dy dŷ, oherwydd rwyt ar fin marw; ni fyddi fyw.’ ”

2. Troes Heseceia ei wyneb at y pared a gweddïo ar yr ARGLWYDD,

3. a dweud, “O ARGLWYDD, cofia fel yr oeddwn yn rhodio ger dy fron di â chywirdeb a chalon berffaith, ac yn gwneud yr hyn oedd dda yn dy olwg.” Ac fe wylodd Heseceia'n chwerw.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 38