Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Asyria yn Erbyn Jerwsalem

1. Yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiad Heseceia, ymosododd Senacherib brenin Asyria ar holl ddinasoedd caerog Jwda a'u goresgyn.

2. Ac anfonodd brenin Asyria y prif swyddog â byddin gref o Lachis i Jerwsalem at y Brenin Heseceia; ac fe safodd wrth bistyll y Llyn Uchaf, sydd gerllaw priffordd Maes y Pannwr.

3. Daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, ato i'r fan honno, a chydag ef Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur.

4. Dywedodd y prif swyddog wrthynt, “Dywedwch wrth Heseceia mai dyma neges yr ymerawdwr, brenin Asyria: ‘Beth yw sail yr hyder hwn sydd gennyt?

5. A wyt ti'n meddwl bod geiriau yn gwneud y tro ar gyfer rhyfel, yn lle cynllun a nerth? Ar bwy, ynteu, yr wyt yn dibynnu wrth godi gwrthryfel yn f'erbyn?

6. Ai'r Aifft—ffon o gorsen wedi ei hysigo, sy'n rhwygo ac anafu llaw y sawl sy'n pwyso arni? Un felly yw Pharo brenin yr Aifft i bwy bynnag sy'n dibynnu arno.

7. Neu os dywedi wrthyf, “Yr ydym yn dibynnu ar yr ARGLWYDD ein Duw”, onid ef yw'r un y tynnodd Heseceia ei uchelfeydd a'i allorau, a dweud wrth Jwda a Jerwsalem, “O flaen yr allor hon yr addolwch”?

8. Yn awr, beth am daro bargen gyda'm meistr, brenin Asyria? Rhof ddwy fil o feirch iti, os gelli di gael marchogion iddynt.

9. Neu sut y gelli wrthod un capten o blith gweision lleiaf fy meistr, a dibynnu ar yr Aifft am gerbydau a marchogion?

10. Heblaw hyn, ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yn erbyn y wlad hon i'w dinistrio? Yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, “Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi”.’ ”

11. Dywedodd Eliacim a Sebna a Joa wrth y prif swyddog, “Gwell gennym iti siarad â ni yn Aramaeg, oherwydd yr ydym yn ei deall, a pheidio â siarad yn Hebraeg yng nghlyw'r bobl sydd ar y mur.”

12. Ond atebodd y prif swyddog, “Ai at dy feistr a thithau yr anfonodd fy meistr fi i ddweud fy neges, yn hytrach nag at y bobl sydd ar y mur, a fydd, fel chwithau, yn bwyta eu tom ac yn yfed eu dŵr eu hunain?”

13. Yna fe safodd y prif swyddog a gweiddi'n uchel mewn Hebraeg, “Clywch eiriau'r ymerawdwr, brenin Asyria;

14. dyma y mae'n ei ddweud: ‘Peidiwch â gadael i Heseceia eich twyllo; ni all ef eich gwaredu.

15. Peidiwch â chymryd eich perswadio ganddo i ddibynnu ar yr ARGLWYDD pan yw'n dweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn siŵr o'n gwaredu, ac ni roddir y ddinas hon i afael brenin Asyria.”

16. Peidiwch â gwrando ar Heseceia.’ Dyma eiriau brenin Asyria: ‘Gwnewch delerau heddwch â mi; dewch allan ataf; ac yna caiff pob un fwyta o'i winwydden ac o'i ffigysbren, ac yfed dŵr o'i ffynnon ei hun,

17. nes i mi ddod i'ch dwyn i wlad debyg i'ch gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd.

18. Cymerwch ofal rhag i Heseceia eich hudo chwi trwy ddweud, “Bydd yr ARGLWYDD yn ein gwaredu.” A yw duw unrhyw un o'r cenhedloedd wedi gwaredu ei wlad o afael brenin Asyria?

19. Ple mae duwiau Hamath ac Arpad? Ple mae duwiau Seffarfaim? A wnaethant hwy waredu Samaria o'm gafael?

20. Prun o holl dduwiau'r gwledydd hyn sydd wedi gwaredu ei wlad o'm gafael? Sut, ynteu, y mae'r ARGLWYDD yn mynd i waredu Jerwsalem o'm gafael?’ ”

21. Cadw'n ddistaw a wnaeth y bobl, heb ateb gair, oherwydd yr oedd y brenin wedi rhoi gorchymyn nad oeddent i'w ateb.

22. Yna daeth Eliacim fab Hilceia, arolygwr y palas, a Sebna yr ysgrifennydd a Joa fab Asaff, y cofiadur, at Heseceia, a'u dillad wedi eu rhwygo, ac adrodd wrtho yr hyn yr oedd y prif swyddog wedi ei ddweud.