Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 35:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llawenyched yr anial a'r sychdir,gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.

2. Blodeued fel maes o saffrwn,a gorfoleddu â llawenydd a chân.Rhodder gogoniant Lebanon iddo,mawrhydi Carmel a Saron;cânt weld gogoniant yr ARGLWYDD,a mawrhydi ein Duw ni.

3. Cadarnhewch y dwylo llesg,cryfhewch y gliniau gwan;

4. dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch.Wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 35