Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 35:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Llawenyched yr anial a'r sychdir,gorfoledded y diffeithwch, a blodeuo.

2. Blodeued fel maes o saffrwn,a gorfoleddu â llawenydd a chân.Rhodder gogoniant Lebanon iddo,mawrhydi Carmel a Saron;cânt weld gogoniant yr ARGLWYDD,a mawrhydi ein Duw ni.

3. Cadarnhewch y dwylo llesg,cryfhewch y gliniau gwan;

4. dywedwch wrth y pryderus, “Ymgryfhewch, nac ofnwch.Wele, fe ddisgyn ar Edom,ar y bobl a ddedfryda i farn.

5. Yna fe agorir llygaid y deilliona chlustiau'r byddariaid;

6. fe lama'r cloff fel hydd,fe gân tafod y mudan;tyr dyfroedd allan yn yr anialwch,ac afonydd yn y diffeithwch;

7. bydd y crastir yn llyn,a'r tir sych yn ffynhonnau byw;yn y tir garw, lle cyrcha'r siacal,bydd gweirglodd o gorsennau a brwyn.

8. Yno bydd priffordd a ffordd,a gelwir hi yn ffordd sanctaidd;ni bydd yr halogedig yn mynd ar hyd-ddi;bydd yn ffordd i'r pererin,ac nid i'r cyfeiliorn, i grwydro ar hyd-ddi.

9. Ni ddaw llew yno,ni ddring bwystfil rheibus iddi—ni cheir y rheini yno.Ond y rhai a ryddhawyd fydd yn rhodio arni,

10. a gwaredigion yr ARGLWYDD fydd yn dychwelyd.Dônt i Seion dan ganu,bob un gyda llawenydd tragwyddol;hebryngir hwy gan lawenydd a gorfoledd,a bydd gofid a griddfan yn ffoi ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 35