Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 33:5-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder;fe leinw Seion â barn a chyfiawnder,

6. ac ef fydd sicrwydd dy amserau.Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth,ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor.

7. Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan,a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw.

8. Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith,heb neb yn troedio'r ffordd;diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau,nid yw neb yn cyfrif dim.

9. Y mae'r wlad mewn galar a gofid,Lebanon wedi drysu a gwywo;aeth Saron yn anialwch,a Basan a Charmel heb ddail.

10. “Ond yn awr mi godaf,” medd yr ARGLWYDD,“yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel.

11. Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl;tân yn eich ysu fydd eich anadl;

12. bydd y bobl fel llwch calch,fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y tân.”

13. Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum,ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos.

14. Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni,a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn:“Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol,a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?”

15. Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir,sy'n gwrthod elw trawster,sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr,sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio,sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith.

16. Y mae ef yn trigo yn yr uchelder,a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau,a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.

17. Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch,a gwelant dir yn ymestyn ymhell;

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 33