Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 33:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. byddi'n dwyn i gof yr ofnau:“Ble mae'r un fu'n cofnodi?Ble mae'r un fu'n pwyso?Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?”

19. Ni chei weld pobl farbaraidd,pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad,a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall.

20. Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau;bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem,bro diddanwch, pabell na symudir;ni thynnir un o'i phegiau byth,ac ni thorrir un o'i rhaffau.

21. Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd,a mangre afonydd a ffrydiau llydain;ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno,na llong fawr yn hwylio heibio.

22. Yr ARGLWYDD yw ein barnwr,yr ARGLWYDD yw ein deddfwr;yr ARGLWYDD yw ein brenin,ac ef fydd yn ein gwaredu.

23. Y mae dy raffau'n llac,heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le,ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu.Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr,a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth.

24. Ni ddywed neb o'r preswylwyr, “Rwy'n glaf”,a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 33