Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 33:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Y mae ef yn trigo yn yr uchelder,a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau,a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr.

17. Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch,a gwelant dir yn ymestyn ymhell;

18. byddi'n dwyn i gof yr ofnau:“Ble mae'r un fu'n cofnodi?Ble mae'r un fu'n pwyso?Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?”

19. Ni chei weld pobl farbaraidd,pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad,a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall.

20. Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau;bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem,bro diddanwch, pabell na symudir;ni thynnir un o'i phegiau byth,ac ni thorrir un o'i rhaffau.

21. Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd,a mangre afonydd a ffrydiau llydain;ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno,na llong fawr yn hwylio heibio.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 33