Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4
  5. 5
  6. 6
  7. 7
  8. 8
  9. 9
  10. 10
  11. 11
  12. 12
  13. 13
  14. 14
  15. 15
  16. 16
  17. 17
  18. 18
  19. 19
  20. 20
  21. 21
  22. 22
  23. 23
  24. 24
  25. 25
  26. 26
  27. 27
  28. 28
  29. 29
  30. 30
  31. 31
  32. 32
  33. 33
  34. 34
  35. 35
  36. 36
  37. 37
  38. 38
  39. 39
  40. 40
  41. 41
  42. 42
  43. 43
  44. 44
  45. 45
  46. 46
  47. 47
  48. 48
  49. 49
  50. 50
  51. 51
  52. 52
  53. 53
  54. 54
  55. 55
  56. 56
  57. 57
  58. 58
  59. 59
  60. 60
  61. 61
  62. 62
  63. 63
  64. 64
  65. 65
  66. 66

Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

Teyrnas Cyfiawnder

1. Wele, bydd brenin yn teyrnasu mewn cyfiawnder,a'i dywysogion yn llywodraethu mewn barn,

2. pob un yn gysgod rhag y gwyntac yn lloches rhag y dymestl,fel afonydd dyfroedd mewn sychdir,fel cysgod craig fawr mewn tir blinedig.

3. Ni chaeir llygaid y rhai sy'n gweld,ac fe glyw clustiau'r rhai sy'n gwrando;

4. bydd calon y difeddwl yn synied ac yn deall,a thafod y bloesg yn siarad yn llithrig a chlir.

5. Ni elwir mwyach y ffŵl yn fonheddig,ac ni ddywedir bod y cnaf yn llednais.

6. Oherwydd y mae'r ffŵl yn traethu ffolineb,a'i galon yn dyfeisio drygioni,i weithio annuwioldeb,i draethu celwydd am yr ARGLWYDD;y mae'n atal bwyd rhag y newynog,ac yn gwrthod diod i'r sychedig.

7. Y mae cynllwyn y cnaf yn faleisus;y mae'n dyfeisio camwrii ddifetha'r tlawd trwy dwyll,a gwadu cyfiawnder i'r anghenus.

8. Ond y mae'r anrhydeddus yn gweithredu anrhydedd,ac yn ei anrhydedd y saif.

9. Safwch, chwi wragedd moethus, a chlywch;gwrandewch fy ymadroddion, chwi ferched hyderus.

10. Ymhen ychydig dros flwyddyn cewch eich ysgwyd o'ch difrawder,oherwydd derfydd y cynhaeaf gwin, a chwithau heb gasglu ffrwyth.

11. Chwi sy'n ddiofal, pryderwch,ymysgydwch o'ch difrawder.Tynnwch eich dillad ac ymnoethi;rhowch sachliain am eich lwynau.

12. Curwch eich bronnauam y meysydd braf a'r gwinwydd ffrwythlon,

13. am dir fy mhobl, sy'n tyfu drain a mieri,ac am yr holl dai diddan yn y ddinas lon.

14. Canys cefnwyd ar y palas,a gwacawyd y ddinas boblog.Aeth y gaer a'r tŵr yn ogofeydd am byth,yn hyfrydwch i'r asynnod gwylltac yn borfa i'r preiddiau.

15. Pan dywelltir arnom ysbryd oddi fry,a'r anialwch yn mynd yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir,

16. yna caiff barn drigo yn yr anialwcha chyfiawnder gartrefu yn y doldir;

17. bydd cyfiawnder yn creu heddwch,a'i effeithiau yn llonyddwch a diogelwch hyd byth.

18. Yna bydd fy mhobl yn trigo mewn bro heddychlon,mewn anheddau diogel, a chartrefi tawel,

19. a'r goedwig wedi ei thorri i lawr,a'r ddinas yn gydwastad â'r pridd.

20. Gwyn eich byd chwi sy'n hau wrth lan pob afon,ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd.