Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 31:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Gwae'r rhai sy'n mynd i lawr i'r Aifft am gymorth,ac yn ymddiried mewn meirch,a'u hyder mewn rhifedi cerbydau a chryfder gwŷr meirch,ond sydd heb edrych at Sanct Israel, na cheisio'r ARGLWYDD.

2. Ond y mae ef yn fedrus i ddwyn dinistr,ac nid yw'n galw ei air yn ôl;fe gyfyd yn erbyn tŷ'r rhai drygionusac yn erbyn swcwr y rhai ofer.

3. Meidrolion yw'r Eifftiaid, nid Duw;a chnawd yw eu meirch, nid ysbryd;pan fydd yr ARGLWYDD yn estyn ei law,fe fagla'r cynorthwywr ac fe syrthia'r sawl a gynorthwyir,a darfyddant oll gyda'i gilydd.

4. Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf:“Fel y rhua llew neu lew ifanc uwchben ei ysglyfaeth—ac er galw lliaws o fugeiliaid yn ei erbynnid yw'n dychryn rhag eu gwaedd, nac yn ofni rhag eu twrf—felly y daw ARGLWYDD y Lluoedd i lawri frwydro dros Fynydd Seion a'i bryn.

5. Fel yr adar yn hofran uwchben,felly y bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn amddiffyn Jerwsalem;bydd yn amddiffyn a gwaredu, yn arbed ac achub.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 31