Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:8-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech,a nodi hyn mewn llyfr,iddo fod mewn dyddiau a ddawyn dystiolaeth barhaol.

9. Pobl wrthryfelgar yw'r rhain,plant celwyddog,plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD,

10. ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”,ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn,ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus.

11. Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn,parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.”

12. Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn:“Am i chwi wrthod y gair hwnac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,

13. bydd y drygioni hwn yn eich golwgfel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd,ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;

14. bydd yn torri fel llestr crochenydd,yn chwilfriw ulw mân;ni cheir ymysg ei ddarnaugragen i godi tân oddi ar aelwyd,neu i godi dŵr o ffos.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30