Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:22-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

22. Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.”

23. Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,

24. a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw.

25. Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddŵr, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau.

26. A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iacháu'r archoll ar ôl eu taro.

27. Wele, daw enw'r ARGLWYDD o bell;bydd ei ddigofaint yn llosgi a'i gynddaredd yn llym,ei wefusau'n llawn o ddictera'i dafod fel tân ysol,

28. ei anadl fel llifeiriant yn rhuthroac yn cyrraedd at y gwddf;bydd yn hidlo'r cenhedloedd â gogr dinistriol,ac yn gosod ffrwyn ym mhennau'r bobloedd i'w harwain ar gyfeiliorn.

29. Ond i chwi fe fydd cân, fel ar noson o ŵyl sanctaidd;a bydd eich calon yn llawen, fel llawenydd rhai'n dawnsio i sŵn ffliwtwrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, at Graig Israel.

30. Bydd yr ARGLWYDD yn peri clywed ei lais mawreddog,ac yn dangos ei fraich yn taromewn dicter llidiog a fflamau tân ysol,mewn torgwmwl a thymestl a chenllysg.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30