Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 30:11-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn,parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.”

12. Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn:“Am i chwi wrthod y gair hwnac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt,

13. bydd y drygioni hwn yn eich golwgfel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd,ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu;

14. bydd yn torri fel llestr crochenydd,yn chwilfriw ulw mân;ni cheir ymysg ei ddarnaugragen i godi tân oddi ar aelwyd,neu i godi dŵr o ffos.”

15. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel:“Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig,wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn.Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud,

16. ‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi.‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch.Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym.

17. Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un;ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadaelfel lluman ar ben mynydd,ac fel baner ar fryn.”

18. Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyli gael trugarhau wrthych,ac yn barod i ddangos tosturi.Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD;gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho.

19. Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb.

20. Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld.

21. Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.”

22. Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.”

23. Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw,

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 30