Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 3:17-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. bydd yr ARGLWYDD yn rhoi clafr ar gorun merched Seion,bydd yr ARGLWYDD yn dinoethi eu gwarthle hwy.”

18. Yn y dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn symud ymaith bob addurn—y fferledau, y coronigau, y cilgantiau,

19. y clustlysau, y breichledau, y gorchuddion,

20. y penwisgoedd, y cadwyni, y gwregys, y blychau perarogl, y mân swyndlysau;

21. y fodrwy-sêl, y fodrwy trwyn;

22. y gwisgoedd hardd, y fantell, y glog a'r pyrsau;

23. y gwisgoedd sidan a'r gwisgoedd lliain, y twrban a'r gorchudd wyneb.

24. Yn lle perarogl bydd drewdod,yn lle gwregys bydd rhaff;yn lle tresi o wallt bydd moelni,yn lle mantell bydd sachliain,yn lle prydferthwch bydd marc llosg.

25. Syrth dy wŷr gan gleddyf,a'th wŷr nerthol mewn rhyfel;

26. bydd pyrth y ddinas yn gofidio a galaru,a hithau wedi ei gadael yn unig, yn eistedd ar y llawr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 3