Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29:11-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.”

12. Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni fedraf ddarllen.”

13. Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD,“Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu atafa thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig,ond eu calon ymhell oddi wrthyf,a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,

14. am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto,ac yn syfrdanu'r bobl hyn;difethir doethineb eu doethiona chuddir deall y rhai deallus.”

15. Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfni gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD;am fod eu gwaith yn y tywyllwch,dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?”

16. Troi popeth o chwith yr ydych.A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai?A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr,“Nid ef a'm gwnaeth”?A ddywed y llestr am ei luniwr, “Nid yw'n deall”?

17. Onid ychydig bach fydd etones troi Lebanon yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?

18. Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr,a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew.

19. Caiff y rhai llariaidd eto lawenychu yn yr ARGLWYDD,a'r tlotaf o bobl ymffrostio yn Sanct Israel.

20. Darfu am y rhai creulon, peidiodd y rhai trahaus,torrir ymaith bob un sy'n barod i wneud drygioni,

21. a phawb sy'n cyhuddo dyn o gamwedd,yn gosod magl i'r un sy'n erlyn yn y porth,ac yn atal barn trwy dwyllo'r cyfiawn.

22. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth dŷ Jacob, y Duw a waredodd Abraham:“Nid yw'n amser i Jacob gywilyddio,nac yn awr i'w wyneb welwi;

23. pan wêl ef ei blant, gwaith fy nwylo o'i fewn,fe sancteiddiant fy enw,sancteiddiant Sanct Jacob,ac ofnant Dduw Israel;

24. a bydd y rhai cyfeiliornus o ysbryd yn dysgu deall,a'r rhai gwrthnysig yn derbyn gwers.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 29