Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 29:10-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Canys tywalltodd yr ARGLWYDD arnoch ysbryd trwmgwsg;caeodd eich llygaid, sef y proffwydi,a gorchuddiodd eich pennau, sef y gweledyddion.

11. Aeth y broffwydoliaeth i gyd fel geiriau llyfr dan sêl. Os rhoddir ef i un a all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni allaf, oherwydd y mae wedi ei selio.”

12. Ac os rhoddir ef i un na all ddarllen, a dweud, “Darllen hwn i mi”, fe etyb, “Ni fedraf ddarllen.”

13. Yna fe ddywedodd yr ARGLWYDD,“Oherwydd bod y bobl hyn yn nesáu atafa thalu gwrogaeth i mi â geiriau yn unig,ond eu calon ymhell oddi wrthyf,a'u parch i mi yn ddim ond cyfraith ddynol wedi ei dysgu ar gof,

14. am hynny wele fi'n gwneud rhyfeddod eto,ac yn syfrdanu'r bobl hyn;difethir doethineb eu doethiona chuddir deall y rhai deallus.”

15. Gwae y rhai sy'n cloddio'n ddwfni gadw eu cynllwyn yn gudd rhag yr ARGLWYDD;am fod eu gwaith yn y tywyllwch,dywedant, “Pwy sy'n ein gweld? Pwy sy'n gwybod?”

16. Troi popeth o chwith yr ydych.A yw'r crochenydd i'w ystyried fel clai?A ddywed y peth a wnaethpwyd am ei wneuthurwr,“Nid ef a'm gwnaeth”?A ddywed y llestr am ei luniwr, “Nid yw'n deall”?

17. Onid ychydig bach fydd etones troi Lebanon yn ddoldir,a'r doldir yn cael ei ystyried yn goetir?

18. Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr,a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew.

19. Caiff y rhai llariaidd eto lawenychu yn yr ARGLWYDD,a'r tlotaf o bobl ymffrostio yn Sanct Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 29